THE NORTHERN EYE 2024
(the inbetweener…)

GŴYL FFOTOGRAFFIAETH RYNGWLADOL

BAE COLWYN - DYDD SADWRN  23 / DYDD SUL 24 TACHWEDD

Caiff ein gŵyl ffotograffiaeth boblogaidd ei chynnal fel arfer bob dwy flynedd yn nhref Bae Colwyn yn y flwyddyn ‘od’, rydym ni’n ŵyl gyfeillgar sydd eitha’ hoff o fod ychydig yn ‘od’, yn wahanol heb gyfyngu pethau i’r dethol rai, gyda dymuniad cyffredinol i glodfori ffotograffiaeth a denu sylw ehangach iddo, felly mae hynny’n ein gweddu ni’n berffaith.

Serch hynny, allem ni ddim aros i’ch croesawu chi’n ôl i’n gŵyl lawn nesaf yn 2025, felly gan gymryd yr awenau ar ôl y newyddion anffodus bod Gŵyl ‘Eye’ Aberystwyth eleni wedi cael ei gohirio, rydym wedi cynnull detholiad o siaradwyr a gwesteion o safon uchel ar gyfer penwythnos o ymgolli mewn ffotograffiaeth yma ym Mae Colwyn fis Tachwedd yma.

Mae hyn yn ychwanegol i’n gŵyl arferol bob dwy flynedd, a bydd yn cael ei gynnal mewn lleoliad llai sydd â chapasiti llai na’r arfer - cofiwch am hyn os ydych chi’n bwriadu ymuno â ni eleni gan fod tocynnau’n gyfyngedig. 

Eleni, fe fydd Penwythnos Siaradwyr arbennig yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 TACHWEDD a bydd yn cael ei gynnal yn adeilad PORTH EIRIAS ar bromenâd Bae Colwyn.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi hamrywiaeth wych arall o siaradwyr ar gyfer 2024.

Mae tocynnau ar gyfer y penwythnos llawn ar gael rŵan - £40 / £35

PENWYTHNOS Y SIARADWYR

DYDD SADWRN  23 / DYDD SUL 24 TACHWEDD

JENNY LEWIS

HOMER SYKES

SUNIL GUPTA

CHARAN SINGH

DEWI LEWIS

ANEESA DAWOOJEE

EDDIE OTCHERE

BILLIE CHARITY


Digwyddiad Penwythnos Llyfr/Cylchgrawn Lluniau

Yn ogystal â phenwythnos y siaradwyr, fe fyddwn ni’n cynnal ein digwyddiad Llyfr/Cylchgrawn Lluniau cyntaf lle byddwn ni’n annog llyfrau/cylchgronau sydd wedi’u cyhoeddi/eu hunan gyhoeddi i gael eu rhannu.  Bydd rhagor o newyddion am hyn yn fuan iawn!


Cymdeithasu

Mae The Northern Eye yn enwog am ei awyrgylch cymdeithasol cyfeillgar, ac fe fyddwch chi’n falch o wybod nad yw eleni’n wahanol!  Mae ein ‘Noson Cyri’ ar y nos Sadwrn yn ôl, ac rydym ni’n gweithio ar yr elfen gymdeithasol newydd i’r rhai sydd yn aros drosodd at y dydd Sul. 

Fe fydd manylion yn cael eu rhannu gyda deiliaid tocynnau yn nes at yr amser.


Sut i Gyrraedd - PORTH EIRIAS

Please note: this year’s ‘inbetweener’ will be held at Porth Eirias, not Theatr Colwyn.

Mae Porth Eirias i’w weld ar Bromenâd Bae Colwyn, sydd 10 munud o’r holl brif gysylltiadau trafnidiaeth. Gallwch ddod o hyd i ni trwy chwilio am ein cod post: LL29 7SP.

Tn y Car: Mae Porth Eirias 0.5 milltir i ffwrdd o’r A55, ac mae’n cymryd tua 2 funud mewn car o’r A55, gan roi mynediad o bob rhan o’r Gogledd Orllewin a thu hwnt ar yr M62/M56. O Gyffordd 22 yr A55, dilynwch yr arwyddion ar gyfer y promenâd. Trowch i'r chwith ar y promenâd i gyfeiriad Llandrillo-yn-Rhos, ac fe welwch arwyddion am Borth Eirias.

Ar y Train: Mae Porth Eirias tua 10 munud ar droed o Orsaf Bae Colwyn. Os ydych yn gadael gorsaf Bae Colway, cymerwch i'r chwith a dilynwch y llwybr troed tuag at y promenâd, mae'n mynd i lawr yr allt ychydig ac fe ewch trwy dwnnel i gerddwyr. Unwaith y byddwch ar y promenâd trowch i'r dde a cherdded i gyfeiriad Porth Eirias, a fydd ar lan y môr i'r chwith i chi.

Mae amseroedd trenau a phrisiau ar gael o:
National Rail: www.nationalrail.co.uk
Trainline: www.thetrainline.com
Gallwch hefyd wirio statws amser real eich taith yn: https://www.nationalrail.co.uk/service_disruptions/indicator.aspx

Ar y Bus: Mae Canol Tref Bae Colwyn 10 munud ar droed o Borth Eirias, ac mae gan nifer o wahanol lwybrau bysiau arosfannau ym Mae Colwyn.

I gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i'r opsiwn gorau yn seiliedig ar fan cychwyn eich taith gallwch edrych ar y gwefannau canlynol: