Billie Charity

SIARADWYR YN YR ŴYL

Mae Billie Charity yn ffotograffydd portread a dogfennol. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos ar hyd a lled Cymru ac yn Llundain, ac mae wedi cael sylw yn y wasg yn rheolaidd. Mae wedi cyhoeddi sawl llyfr lluniau hefyd – y diweddaraf yw  QUEEN FROM NO SCENE, a gyhoeddwyd gan Graffeg. 

Mae’r llyfr yn adrodd stori ffermwr lleol sydd hefyd yn frenhines drag. Treuliodd Billie ddwy flynedd yn dilyn Dean/Boo La Croux ac yn tynnu lluniau.

Billie yw ffotograffydd portread swyddogol Gŵyl y Gelli, ac mae wedi rhoi sgyrsiau amrywiol yn yr ŵyl am ffotograffiaeth. Ymhlith ei chleientiaid eraill mae Cronfa’r Loteri Fawr, Theatr Genedlaethol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

"Canolbwynt fy ffotograffiaeth yw pobl. Boed mewn sefyllfa ffurfiol neu arddull ‘stryd’ didwyll, yr hyn sy’n ysgogi fy angerdd i dynnu lluniau yw cyfleu’r cymeriadau unigol rwyf yn dod ar eu traws. Rwyf wrth fy modd yn teithio a chymryd lluniau stryd, ond rwyf hefyd yn hoffi dod o hyd i harddwch ar garreg fy nrws."

Mae Billie yn cymryd comisiynau ar gyfer portreadau, digwyddiadau a rhai golygyddol. Mae hefyd yn cynnal gweithdai ffotograffiaeth portreadu a stryd ac yn mentora pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc.


From Queen From No Scene ©Billie Charity

From Queen From No Scene ©Billie Charity

Jarvis Cocker, Hay Festival ©Billie Charity

Helena Bonham Carter, Hay Festival ©Billie Charity