Jenny Lewis
SIARADWYR YN YR ŴYL
Mae Jenny Lewis yn artist amlddisgyblaethol sydd wedi ennill gwobrau. Ar ôl bod yn ffotograffydd portreadau golygyddol ers pum mlynedd ar hugain, mae ei harfer eang sy’n seiliedig ar lens yn cynnwys barddoniaeth, collage a gosodiadau bellach. Mae Lewis yn creu deialog gweledol sy’n herio naratif patriarchaidd y profiad benywaidd. Mae ganddi ddiddordeb mewn themâu trawsnewid, colled ac ail-gysylltu, gan amharu ar iaith a chyfyngiadau ffotograffiaeth a’u haduno. Mae ei gwaith presennol yn edrych ar agweddau heriol o hunaniaeth a mynd i’r afael â nhw, gan ddymchwel genre mwy traddodiadol portreadu.
Mae prosiectau Lewis wedi’u harddangos yn helaeth yn genedlaethol a rhyngwladol mewn sefydliadau fel yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Llundain, Oriel Open Eye, Lerpwl a Photo 22, Melbourne, yn ogystal ag amrywiaeth o gyflwyniadau celf cyhoeddus parhaol mewn mannau cymunedol fel Canolfan Hamdden Britannia a Shoreditch Trust Centre. Mae ei gwaith yn rhan o gasgliadau gan gynnwys yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, The Welcome Collection, Birthrites Collection, The Tate Library a The Womens Library Glasgow. Mae ei gwaith wedi’i gefnogi gan Gyngor y Celfyddydau gyda Grant DYCP a Grant Prosiect. Cafodd ei chyfres bresennol ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer The Ampersands/ Photoworks Fellowship yn 2023.
Mae hi hefyd wedi cyhoeddi tri monograff gyda Hoxton Mini Press. Mae hi’n fentor yn y gymuned ffotograffiaeth, gan roi darlithoedd a rhedeg gweithdai ar draws y wlad i brifysgolion, prosiectau cymunedol a sefydliadau celf.
Mae ei gwaith wedi’i wreiddio mewn perthynas ddofn ac agos â’i chymuned, y mae hi wedi bod yn rhan ohoni ers 26 mlynedd. Mae’r gyfres ‘One Day Young’ yn dathlu merched ar y diwrnod iddynt roi genedigaeth. Mae’r portreadau wedi’u tynnu yn eu cartrefi eu hunain ac maen nhw’n rhoi gwelededd i famau newydd a’r trawsnewid mawr hwn wrth wanhau’r naratifau negyddol sy’n gysylltiedig â genedigaeth.
Mae Hackney Studios yn archwilio’r cysylltedd a’r rhwydwaith gofynnol er mwyn cynnal arfer creadigol mewn prosiect ar y cyd, lle gwnaeth pob artist argymell y cyfranogwr nesaf. Mae’r gyfres yn cynnig golwg gymhleth ar y gymuned greadigol ffyniannus yn Nwyrain Llundain wrth ddatgelu effaith a phwysau boneddigeiddio didrugaredd.
Yn One Hundred Years, gwnaeth Lewis gofnodi 100 o bobl, 100 mlynedd, mewn un gymuned. Nid portread o gymdogaeth yn unig yw’r casgliad gwefreiddiol hwn o straeon gan breswylwyr Hackney o bob oed, o enedigaeth i 100 oed, ond mae’n adlewyrchiad pwerus o’r gofid dwfn, llawenydd angerddol a’r nifer o wrthddywediadau sy’n ffurfio ein bywydau ein hunain. Mae portreadau Lewis yn datgelu ei phobl yn eu cartrefi eu hunain, eu gweithleoedd neu eu hamgylchedd lleol, gan greu cofnod hanesyddol o’r ffordd yr ydym ni’n byw.
Mae Lewis yn gweithio ar waith newydd ar hyn o bryd, ‘UnBecoming’. Ar y tro cyntaf, mae hi’n troi’r camera arni hi ei hun mewn datrysiad agos o’i phrofiad o fyw gyda salwch anweladwy cronig, wrth lywio byd anhysbys y menopos ar yr un pryd. I Lewis, mae cadw lle ar gyfer y trawsnewid hwn i ganol oed yn wleidyddol. Mae’r themâu hyn yn rhai tabŵ o hyd – yn y byd celf ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ehangach – ac wrth eu canoli, mae hi’n ceisio chwalu’r tensiwn hwn a chreu sgwrs sy’n dod â’r pynciau hyn, sy’n aml yn rhai cudd, i’r amlwg.