Eddie Otchere

SIARADWYR YN YR ŴYL

Mae Eddie Otchere yn ffotograffydd sydd yn fwyaf adnabyddus am ei bortreadau o rapwyr, cantorion a DJs arloesol canol y 1990au a’r 2000au.  Mae ei waith yn cynnwys lluniau o  Biggie Smalls, Black Star (Mos Def a Thalib Kweli), So Solid Crew, Estelle, Goldie, Omar a llu o rai eraill, yn ogystal â’i ffotograffau swyddogol o Metalheadz: Blue Note sessions 1994-1996. Mae o hefyd wedi gweithio gyda brandiau mawr fel Apple, Converse, Casio G-Shock, Leica, a Spotify.

Ers 1993 mae ffotograffau Otchere wedi’u harddangos a’u cyhoeddi ledled y byd, yn cynnwys ar gloriau cylchgronau rhyngwladol blaenllaw fel  Dazed, Lodown a Mixmag, yn ogystal ag ar gloriau rhai o albymau mwyaf arloesol cerddoriaeth rap a drwm a bas.

Mae o hefyd yn gydawdur y nofel gwlt Junglist (1995, ailgyhoeddwyd 2019).

Mae’r ffotograffydd enwog Eddie Otchere (Llundain, y DU),  a gydnabyddir fel croniclydd mwyaf blaenllaw'r diwylliant ieuenctid Du ym Mhrydain, newydd lansio ei waith diweddaraf,  Spirit Behind the Lens: The Making of a Hip Hop Photographer.  Mae ei lyfr gafaelgar yn cynnig cipolwg digynsail i fyd egnïol y diwylliant ieuenctid Du cyfoes ac yn cyfuno atgofion personol â chasgliad eiconig  o ffotograffau a dynnwyd dros gyfnod o 30 o flynyddoedd -  y rhan fwyaf erioed wedi’u gweld o’r blaen.

Gan roi golwg o’r tu mewn o brofiad y dosbarth gweithio Du, mae ei waith yn ein hatgoffa mai adrodd straeon drwy luniau yw sylfaen ffotograffiaeth, yn enwedig dogfennu symudiadau diwylliannol.

O’i ddelweddau eiconig o’r sin Jyngl ganol y 90au i’r Clan Wu-Tang yn Kentish Town a’i archwiliad o Brydain wledig, mae gwaith Otchere yn fyw ag emosiwn y cof materol, mae’n dathlu’r arloeswyr yn yr ymwybyddiaeth o werth creadigol y diwylliant du a’r symudiadau diwylliannol wedi codi o gymunedau tai cymdeithasol trefol.

Yn deillio o wraidd diwylliant tanddaearol Llundain, mae gwaith Otchere wedi bod yn ganolog i ffurfiad hunaniaeth wledol Jungle, Garage y Du, drwm a bas a hip hop. Drwy’r gwaith hynod bersonol hwn mae Otchere yn archwilio rhamant ffotograffiaeth ei hun.  Fel ffotograffydd hynod fedrus a  gwyddonydd ystafell dywyll, mae’n rhannu ei fewnwelediad i’w grefft, ei ddylanwadau a’r hanes personol a siapiodd ei gelf.

Goldie ©Eddie Otchere

Snoop ©Eddie Otchere

Contact Sheet, Fatboy Slim ©Eddie Otchere

Method Man (Wu-Tang Clan) ©Eddie Otchere