Sgwrs:
Sunil Gupta & Charan Singh
SIARADWYR YN YR ŴYL
Mae Sunil Gupta yn ddinesydd Prydeinig/Canadaidd, (g. Delhi Newydd 1953) MA (RCA) PhD (San Steffan) sy’n byw yn Llundain ac sydd wedi bod yn ymwneud â ffotograffiaeth annibynnol fel ymarfer beirniadol ers sawl blwyddyn, gan ganolbwyntio ar hil, mudo a materion cwiar. Cynhaliwyd arddangosfa yn edrych yn ôl ar ei waith yn Oriel y Ffotograffwyr, Llundain (2020/21) ac yn The Image Centre, Toronto. Mae o’n Gydymaith Athrawol yn yr UCA, Farnham. Ei lyfr diweddaraf yw We Were Here: Sexuality, Photography, and Cultural Difference, Selected Writings by Sunil Gupta, Aperture, Efrog Newydd, 2022. Mae ei waith mewn sawl casgliad preifat a chyhoeddus, yn cynnwys: Amgueddfa Ffotograffiaeth Tokyo, Amgueddfa Gelf Philadelphia, Amgueddfa Frenhinol Ontario, Tate, yr Amgueddfa Gelf Fetropolitan a’r Amgueddfa Gelf Fodern. Mae ei waith wedi’i gynrychioli gan Oriel Hales (Efrog Newydd, Llundain), Oriel Materià (Rhufain), Oriel Stephen Bulger (Toronto) ac Oriel Gelf Vadehra (Delhi Newydd).
Mae ymarfer ar sail ymchwil Charan Singh (g. Delhi Newydd, India 1978) yn deillio o’i waith agos gyda HIV/AIDS a gweithredu cymunedol ‘cwiar’ yn India. Hyfforddodd fel ffotograffydd ar ôl symud i’r DU, gan ennill MFA (UCA 2014), a PhD (RCA 2022). Mae Singh yn defnyddio ffotograffiaeth, fideo a thestun i archwilio ei fywyd hoyw cyn dysgu Saesneg. Mae’n ymchwilio i sut mae iaith yn siapio tirluniau cwiar, gwleidyddiaeth cynrychiolaeth a chyfreithlondeb hanes cwiar yn India a safleoedd ôl-drefedigaethol eraill. Methodoleg pwysig yw deall arwyddocâd dweud straeon a chyfieithu o fewn hunaniaethau cwiar brodorol yn lle modelau gorllewinol LHDTRhC+. Mae ei sioe sefydliadol gyntaf ar ddangos yn The Art House, Wakefield. Cymerodd ran yn ddiweddar mewn sioeau grŵp yn y Camden Art Centre, Llundain a’r New Art Gallery, Walsall. Mae ei waith cydweithredol “Dissent and Desire” wedi bod ar ddangos yn y Kochi-Muziris Biennale, Kochi, India 2018, ac yn Amgueddfa Gelf Gyfoes Houston, (catalog), Ionawr—Ebrill2018, ac yn SepiaEye, Efrog Newydd 2017. Yn 2016 enillodd Singh wobr Magnum/Photo London am ei gyfres o bortreadau dan y teitl “Kothis, Hijras, Giriyas and Others", a gafodd ei gynnwys yn The Photoworks Annual (UK), 2017. Ymddangosodd ei waith ysgrifenedig yn Photo South Asia 2022, TAP Review 2020, ac On Curating 2019. Mae Singh wedi’i gomisiynu gan Visual Aids (Efrog Newydd), The Art House, Wakefield a Fierce, Birmingham. Mae ei waith i’w weld mewn sawl casgliad preifat.
A Queer Act of, Resistance, Repair and Love
“Our photographic practices come together as a dialogue between us and the world we inherit. Sometimes we find overserves in a world of excessive and overly saturated representations of queer people, yet so many stories remain untold. Through our collaborative projects we embarked on the question — how, as artists, do we engage with the void that exists, and how can we bridge it? A question that has always been at the core of our critical practices. The ongoing project, Lovers’ Revisited, displays queer domesticities, joyfully confronting sites upon which the world has observed a silence for a long time. It also reveals a trans-national narrative of love, desire and migration. Our other co-authored works Dissent and Desire and Arrival touch upon disparity, not just regarding the unequal distribution of capital and privileges but also about the distribution of knowledge and opportunities to express oneself. These projects were initiated to narrate and reflect upon each individual life, the personal and political consequences of queerness which foregrounds queer lives as praxis.”
Images courtesy the artists and Hales Gallery, Materià Gallery, Stephen Bulger Gallery, SepiaEye and Vadehra Art Gallery. © Sunil Gupta. All Rights Reserved, DACS 2024.