Aneesa Dawoojee
SIARADWYR YN YR ŴYL
Mae Aneesa Dawoojee yn ffotograffydd portreadau a dogfennu cymdeithasol o Dde Llundain, ac wedi ennill sawl gwobr. Mae ei ffotograffau’n chwalu ystrydebau, yn dathlu hanfod cymuned ac yn cymell sgyrsiau agored a chyfryngu drwy bortreadau.
Yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Ffotograffiaeth, ac wedi ennill Gwobr ‘Power of Photography’ gan Gylchgrawn AP. Mae Aneesa hefyd yn gweithio yn y maes darlledu a Chwaraeon, ac wedi ennill Gwobr Arddangosfa Ryngwladol Unigol RPS ac mae ei gwaith wedi’i gynnwys yn y Guardian, Forbes Woman Africa a’r BBC. Mae wedi derbyn cydnabyddiaeth yng nghyfres Portread o Ddynoliaeth yn y British Journal of Photography am dair blynedd yn olynol.
Mae ymagwedd Aneesa tuag at gyfathrebu gweledol wedi arwain at arddangosfa deithiol “Only Human” a gafodd ei harddangos yn y Royal Albert Hall ym mis Mehefin 2024. Mae ei gwaith diweddaraf yn agor yn Oriel Saatchi ar 4 Tachwedd 2024 tan 5 Ionawr 2025.
The Fighting Spirit of South London
Dathliad o ddiwylliant cyfoethog o fewn ardal yn Ne Llundain lle y magwyd Aneesa. Ffotograffiaeth sy’n ceisio nodi gonestrwydd ac urddas pob unigolyn. 40 portread, 40 o straeon.
Cymuned amrywiol yn Llundain sydd wedi’u huno drwy gryfder, caledi a natur benderfynol. Gyda thema sylfaenol o anawsterau bywyd a goresgyn yr anawsterau hynny. Taith pobl Llundain sydd wedi’i huno gan gamp lle na sylwir ar liw. Straeon gweledol tosturiol sy’n cynnig cariad a gobaith.
Mae Aneesa yn adnabyddus am archwilio cymuned, gwydnwch, gobaith a thrafodaethau cymdeithasol, drwy ei gwaith gydag elusennau ieuenctid, ysgolion, colegau a phrifysgolion, mae’n gobeithio annog a chefnogi pobl ifanc o bob cefndir i ddilyn eu llwybrau creadigol.