THE NORTHERN EYE 2023
INTERNATIONAL PHOTOGRAPHY FESTIVAL
Bae COLWYN - HYDREF
Allwn ni ddim aros i’ch croesawu chi’n ôl i ŵyl 2023!
Caiff ein gŵyl ffotograffiaeth a gynhelir bob dwy flynedd yng Ngogledd Cymru ei leoli yn nhref Bae Colwyn yn y flwyddyn ‘od’, rydym ni’n ŵyl gyfeillgar sydd eitha’ hoff o fod ychydig yn ‘od’, yn wahanol heb gyfyngu pethau i’r dethol rai, gyda dymuniad cyffredinol i glodfori ffotograffiaeth a denu sylw ehangach iddo.
Bydd ein prif siaradwyr yn clodfori ffotograffiaeth ar benwythnos dydd Sadwrn 7 a dydd Sul 8 Hydref yn adeilad hanesyddol Theatr Colwyn, y theatr hynaf yng Nghymru sy’n dal i lwyfannu cynyrchiadau, a chartref Oriel Colwyn.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hamrywiaeth wych o siaradwyr ar gyfer 2023.
This year’s Speakers Weekend can be enjoyed ‘In Person’ as usual, but if geography, logistics, illness or disability make that difficult, we are now pleased to offer the option to join from home with our ‘Live Streaming’ option.
Full weekend and individual day tickets are available now.
PENWYTHNOS Y SIARADWYR
dydd Sadwrn 7 / dydd Sul 8 Hydref
ARDDANGOSFEYDD GWYL
Dydd Llun 7 Hydref - Dydd Mawrth 31 Hydref
Mewn ychwanegiad pwysig i benwythnos y siaradwyr, mae arddangosfa’r ŵyl sydd AM DDIM, yn cael ei chynnal trwy gydol mis Hydref. Bydd arddangosfa dros dro yn ymddangos mewn detholiad eclectig o adeiladau a mannau cyhoeddus, ac yn galluogi i ni rannu, cyflwyno a dangos ystod anhygoel o storïau a lluniau gyda’r cyhoedd.
Gweler y digwyddiadau unigol ar gyfer cadarnhad o’r lleoliadau a’r amseroedd yn nes at yr amser.
Mwy o Newyddion yr Arddangosfa yn dod yn fuan!
Caiff Gŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye ei drefnu gan oriel ffotograffiaeth Oriel Colwyn ac mae’n gweithio mewn partneriaeth gyda The Eye Festival Aberystwyth sy’n cael ei chynnal yn ystod yr ‘eil-flynyddoedd’ er mwyn sicrhau bod gŵyl ffotograffiaeth flynyddol yn cael ei chynnal yng Nghymru.