Beth yw PechaKucha?
Mae PechaKucha (sef sgwrsioyn Siapaneg) yn arddull adrodd storïau syml lle mae 20 o luniau yn cael eu dangos am 20 eiliad yr un.Mae’r lluniau yn ymddangos yn awtomatig ar amserydd ac rydych yn siarad wrth iddyn nhw ymddangos.Ni allwch ddewis 'oedi' na 'mynd yn ôl' - mae gennych gyfanswm o 6 munud a 40 eiliad i’w cyflwyno!
Mae’n hwyl, mae’n gyflym ac uwchlaw popeth, mae’n llawn gwybodaeth!
Ar ôl cael eu hysbrydoli gan yr awydd i "siarad llai a dangos mwy", creodd Mark Dytham o Klein-Dytham Architecture (KDa) yn Tokyo PechaKucha ym mis Chwefror 2003. Yn 2004, dechreuodd dinasoedd Ewrop gynnal nosweithiau PK a dilynodd cannoedd o rai eraill dros y blynyddoedd.
Erbyn mis Ebrill 2019, roedd Nosweithiau PechaKucha wedi cael eu cynnal mewn mwy na 1,142 o ddinasoedd ledled y byd gyda mwy na 3 miliwn o bobl yn bresennol.
Dyma ni’n cyflwyno’r fformat am y tro cyntaf yng ngŵyl ‘The Northern Eye’ nôl yn 2019 ac mi roeddech chi wrth eich bodd â’r fformat! Dyma ni’n dod â’r fformat yn ei ôl yn 2021 ac roedd y cariad tuag ato’n parhau…
Felly, RYDYM WEDI PENDERFYNU EI GYFLWYNO UNWAITH ETO ar gyfer gŵyl eleni ac yn ei raglennu unwaith eto ym Mhenwythnos y Siaradwyr ar (ddydd Sadwrn, 7 Hydref)
Rydym wrth ein boddau â ffotograffiaeth newydd yn Northern Eye ac mae’n deimlad cynnes gweld yr holl waith hyfryd yn cael ei greu, felly rydym yn hynod falch o gael cynnig cyfle i hyd at 8 o ffotograffwyr i gyflwyno gwaith yn y digwyddiad PechaKucha arbennig hwn.
Ar gyfer digwyddiad eleni dyma ni’n bachu ar y cyfle i beidio â chadw at ofynion thematig. Mae cael gwared ar yr elfen thema yn y cyflwyniadau eleni yn galluogi rhywun i rannu unrhyw brosiect y byddwch o bosib yn ei weithio arno :)
Hoffem wahodd unigolion i rannu cyflwyniadau personol yn arbennig am waith ffotograffig sydd ganddynt ar y gweill.- Ar gyfer y digwyddiad penodol hwn nid ydym yn chwilio am gyflwyniadau ar brosiectau sydd wedi’u cwblhau a hoffem roi cyfle i ddangos gwaith anorffenedig, newydd neu sydd heb ei weld. (mae’n rhaid i chi allu cyflwyno eich PechaKucha mewn person ar brynhawn Sadwrn, 7 Hydref)
Gallwn roi offer i chi greu’r cyflwyniad (neu greu’r cyflwyniad ar eich rhan) y cyfan sydd ei angen arnoch yw 20 o luniau a pharodrwydd i siarad am eich gwaith a’i gyflwyno. Os ydi’r uchod yn berthnasol i chi a’ch bod yn barod am yr her, pwyswch y botwm ‘ateb’ cyn 24 Medi i ddweud ychydig mwy wrthym am eich gwaith. Yna fe gysylltwn â chi os cewch eich dewis i gyflwyno.
Bydd cyflwynwyr llwyddiannus (os nad oes ganddynt docyn eisoes) yn cael tocyn penwythnos llawn i'r digwyddiad siaradwyr gwadd. Ni chodir tâl am ymgeisio na chyflwyno.