Our Hidden Room - Mohamed Hassan
ARDDANGOSFA YR ŴYL
LLEOLIAD: @20 (20 Station Rd, LL29 8BU)
AR AGOR: DYDD LLUN 7 HYDREF - DYDD MAWRTH 31 HYDREF // AMSER: TBC
Yn wreiddiol o Alexandria yn Yr Aifft, mae Mohamed Hassan, wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Sir Benfro, yng ngorllewin Cymru yn y DU ers 2007.
Mae byw ac astudio yng Nghymru wedi bod yn ganolog i’w daith fel artist wrth iddo gysylltu mwy gyda phobl, cymunedau a thir Cymru. O ganlyniad i’r profiadau hyn, mae wedi ymroi i barhau â’i daith fel artist Cymreig, gan raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth 1af mewn Ffotograffiaeth o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2016.
‘Our Hidden Room’.
Fel artist sydd â chenedligrwydd deuol, mae prosiect Mohamed yn edrych ar ei hunaniaeth fel rhan o gymuned sydd ar wasgar wedi’i lleoli yng Nghymru ac sy’n ehangu’n barhaus. Caiff ysbrydoliaeth o’i atgofion o berthynas gymhleth ond gariadus gyda’i dad. Mae Mohamed yn myfyrio ar frwydr bersonol ei dad gydag anhwylder deubegynol, a oedd yn amlwg iddo yn sgil ei ymddygiad eratig, enciliol a’i obsesiwn gyda’r ystafell fach dywyll oedd wedi’i chuddio yng nghartref y teulu.
Trwy ei lens, mae Mohamed yn ceisio archwilio cymhlethdod y profiad dynol a gwaddol plentyndod trawmatig ac ansicr o fyw mewn amgylchedd bregus a’r dymuniad i ddianc rhag atgofion. Mae ei wrthdaro personol ynglŷn â pherthyn yn cael ei gynrychioli drwy’r bobl mae o’n eu cyfarfod a’r tir y mae’n eu harchwilio, yn Yr Aifft ac yng Nghymru.
Mae’r teimlad cyson o fod wedi dadleoli, a chwestiynau am hunaniaeth yn fythol bresennol.
Yn ei ôl o, roedd yn teimlo fel petai mewn breuddwyd pan gyrhaeddodd o yma gyntaf, ac wrth iddo ddarganfod a chrwydro mwy ar Gymru, cafodd ysbrydoliaeth yn y tirweddau garw o’i amgylch. Fel newydd-ddyfodiad i Gymru mae o wedi cael ei gyfareddu gan ei diwylliant ac iaith gyfoethog ac artistig, sydd yn llawn llên gwerin a chaneuon - ac mae ganddo ddiddordeb parhaus yn dogfennu ei brofiad uniongyrchol o’r bobl a’r tir.
Mae Mohamed wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau a chystadlaethau ac mae ei waith wedi cael ei arddangos yn Oriel Mission anrhydeddus, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Arddangosfa Cystadleuaeth Trajectory Showcase yn Shoreditch, Llundain, Nova Cymru 2018, a chafodd portread ei gynnwys yn arddangosfa Photographic Portrait Taylor Wessing2018 yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.
Fwyaf diweddar, mae Mohamed wedi arddangos 4 llun yn ‘Facing Britain’, a guradwyd gan Ralph Goertz yn Kunsthalle Darmstadt Museum Goch - a deithiodd i Koslar a Krakow yn 2022. Yng Nghymru, roedd arddangosfa ‘Many Voices, One Nation 2’ a gefnogwyd gan y Senedd a gafodd ei arddangos yn Ffotogallery, yn cynnwys 11 o’i luniau ac mae 5 o’i luniau wedi cael eu cynnwys yn arddangosfa Oriel Davies ‘Responding to Rembrandt’.
Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.