Medyka Portraits - Geoff wedge
ARDDANGOSFA YR ŴYL
LLEOLIAD: Bay View Shopping Centre
AR AGOR: 7 HYDREF - 31 HYDREF // 10AM-4PM (M0N-SAT)
Ym mis Ebrill 2022 aeth Geoff Wedge i Medyka yng Ngwlad Pwyl ac i Shehyni yn Wcráin i wirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Siobaun fel ffotograffydd, rhywun i wneud diodydd poeth a bod dynol. Roedd bron i ddeufis wedi mynd heibio ers ergydion cyntaf rhyfel Wcráin a Rwsia, ac roedd y rhan fwyaf o sylw’r cyfryngau ar y gwrthdaro wedi croesi’r ffin i roi sylw i’r rhyfel neu straeon eraill, gan adael lawer o elusennau i barhau â’u gwaith ar ffin Gwlad Pwyl a Wcráin heb sylw’r cyfryngau.
Roedd taith gyntaf Geoff yn canolbwyntio ar ymdrechion y gwirfoddolwyr, gan dynnu sylw at eu moeseg gwaith cadarnhaol a’u tosturi, ond buan iawn y dechreuodd siarad gydag unigolion o Wcráin a gwledydd eraill a oedd wedi croesi’r ffin. Tynnodd ychydig o bortreadau o’r rheiny yr oedd wedi bod yn siarad efo nhw. Cyn mynd adref, dechreuodd Geoff ganolbwyntio ar y depo bysiau ble byddai unigolion o Wcráin yn mynd yno i deithio i’r canolfannau yn Przemyśl i gael cymorth dyngarol a chymorth i symud i ardaloedd eraill gyda llochesau mwy hirdymor.
“Wrth edrych drwy’r delweddau o’r depo bysiau a’r ardal gyfagos, er bod gen i luniau da roeddwn i’n teimlo bod y portreadau yn fwy gonest.
Wythnos neu ddwy yn ddiweddarach roedd y portreadau yr oeddwn i wedi’u tynnu o bobl yn croesi’r ffin yn defnyddio ffilm fformat canolig wedi cyrraedd yn ôl o’r labordy, ac roeddwn i’n teimlo bod y lluniau yma’n rhai gwir ac ddim yn gartwnau o’r rheiny yr oeddwn i wedi siarad efo nhw; ac wrth gwrs heb ganiatâd y bobl yn y lluniau fyswn i ddim wedi’u tynnu.
Mi es i’n ôl i groesfan ffin Medyka / Shehyni ddiwedd mis Mai, sef fy nghyfle nesaf i dynnu mwy o bortreadau o’r unigolion oedd yn croesi’r ffin.”
“Dydi’r darn yma o waith ddim wedi’i wneud ar frys, mae’r rhyfel ei hun wedi’i ddogfennu’n dda gan y cyfryngau a gan sifiliaid sy’n defnyddio eu ffonau i dynnu a rhannu fideos a lluniau. Fel llawer iawn o’m gwaith mae’r prosiect hwn wedi bod yn adlewyrchiad yn hytrach nag ymateb. Does arna i ddim eisiau rhannu’r gyfres gyfan o ddelweddau eto ond dwi’n gobeithio, drwy rannu ychydig o luniau gyda chynulleidfa Gŵyl y Northern Eye, y gallaf brofi’r dyfroedd er mwyn gweld pryd a lle sydd orau i gyflwyno’r darn yma o waith er mwyn dangos parch a sicrhau urddas y bobl yn y lluniau.”
Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.