AYESHA JONES
SIARADWYR YN YR ŴYL
Ganwyd Ayesha Jones yn 1990, yn Birmingham, y DU. Bu iddi astudio Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Canolbarth Sir Gaerhirfryn a graddio yn 2012.
Mae Ayesha yn gweithio gyda ffotograffiaeth a ffilm ac mae ganddi ddiddordeb mewn celf fel catalydd ar gyfer twf, dealltwriaeth, iachau a chysylltiad.
Mae ei phrosiect hunan bortread ‘Imperfection’ yn defnyddio ei hanffurfiad asgwrn cefn (Sgoliosis Idiopathig 90 gradd), a’i llawdriniaeth ymasiad ar yr asgwrn cefn dilynol, i ddadansoddi afluniad y profiad benywaidd mewn cymdeithas orllewinol a’i effaith ar ferched ifanc a merched.
Trwy gydol ei gwaith mae hi wedi ceisio archwilio ei hunaniaeth ei hun, fel rhywun sy’n dod o deulu treftadaeth gymysg (treftadaeth Gymreig a Kittitiaidd). Mae ‘Where Do You Come From?’ yn brosiect ffilm a llun sy’n defnyddio ei phrofiadau o bobl yn gofyn iddi “o ble wyt ti’n dod… yn wreiddiol?” a gorfod egluro hanes ei theulu i ddieithriaid ers yn 5 mlwydd oed. Mae’n dangos y realiti o fod yn y canol; ddim yn teimlo fel eich bod yn perthyn i’r DU ond hefyd ddim yn teimlo fel eich bod yn perthyn i’r tir yr oedd eich cyndeidiau unwaith yn ei alw’n gartref chwaith.
Yn 2022, arddangosodd Ayesha Motherland fel rhan o Ddinas Diwylliant Coventry, mewn coetir yn Coventry. Bu i’r gwaith hwn archwilio hunaniaeth ymhellach wrth iddi symud i Orllewin Affrica, lle rhoddodd enedigaeth i’w mab sydd bellach yn 6 oed.
Mae’r gwaith yn edrych ar sut mae hunaniaeth a straeon yn cael eu pasio o un genhedlaeth i’r llall, gyda phob un yn ychwanegu eu pennod eu hunain. Bu i’r arddangosfa hefyd dynnu sylw at y ffaith y bydd pobl wastad yn rhan o’r byd naturiol ac wedi’u cysylltu gyda’i gilydd yn ôl dyluniad, waeth beth yw eu; lliw croen, treftadaeth neu statws economaidd.
Mae ei harddangosfeydd diweddar a ddewiswyd yn cynnwys:
Leave A Light In My Room, Sioe Unigol, Oriel Ikon, Birmingham, y DU.
Open Walls, Galerie Huit, Arles, Ffrainc.
Decade of Change, Gŵyl Lluniau Belfast, Gogledd Iwerddon.
Motherland, Sioe Unigol, Dinas Diwylliant Coventry, coetir yn Coventry, y DU.
Mae ei gwobrau yn cynnwys:
Portrait of Britain, British Journal of Photography, 2022 a 2023.
Decade of Change, British Journal of Photography.
Magnum Photos a The Photography Show, 30 under 30.
Ar hyn o bryd mae Ayesha yn cael ei chefnogi gan GRAIN Projects a Chyngor Celfyddydau Lloegr i ddatblygu ei llyfr lluniau cyntaf 2023/24.