PHOTOGRAPHS RENDERED IN PLAY-DOH - ELEANOR MACNAIR

ARDDANGOSFA YR ŴYL

LLEOLIAD: TBC

AR AGOR: 1 HYDREF - 31 HYDREF 2025


Original photograph: New Brighton. From 'The Last Resort', 1983-85 by Martin Parr rendered in Play-Doh by Eleanor Macnair.

Dechreuodd Eleanor Macnair ei phrosiect “Photographs Rendered in Play-Doh” ar fympwy arbrofol yn 2013. Ers hynny, mae wedi denu cynulleidfa fawr ac wedi casglu archif o bron i 400 o luniau wedi’u hail-greu.

Maent wedi’u creu yn amser sbâr Macnair, yn aml yn hwyr y nos, gan ddefnyddio Play-Doh arferol, potel win wag fel rholbren, cyllell a bwrdd torri. Yr unig liwiau mae’n eu cymysgu yw’r lliwiau croen mae’n eu cadw mewn hen dwb plastig. Mae wedyn yn tynnu llun o bob model mewn golau naturiol yn ei iard finiau, gan wneud llawer o addasiadau i gael yr ongl a’r golau gorau. Yn olaf, mae pob model yn cael ei ddinistrio a’r clai’n cael ei gadw yn y potiau’n barod at y model nesaf. 

Mae cynnyrch ffotograffig Macnair mewn Play-Doh yn cynnig platfform hyblyg, chwareus i edrych ar hanes ehangach ffotograffiaeth, y meistri a’r lluniau eiconig sy’n diffinio’r cyfrwng, ynghyd â gweithiau llai adnabyddus gyda’r nod o’u dod â nhw i’r amlwg.

Original photograph: Untitled film still #21, 1978 by Cindy Sherman rendered in Play-Doh by Eleanor Macnair.

Ar y wyneb, gall ffotograffau grynhoi syniadau cymhleth a’u cyflwyno fel rhywbeth gweledol, di-lol. Fodd bynnag, drwy hidlo’r cyfansoddiadau yma i weld eu hanfodion sylfaenol, mae Macnair yn gobeithio annog pobl i arafu, cymryd amser wrth edrych, ac edrych o’r newydd ar weithiau cyfarwydd, yn ogystal â darganfod y rhai anghyfarwydd.

Rydym yn byw mewn oes lle rydym yn gweld cannoedd o luniau ar ffonau, cyfrifiaduron, byrddau hysbysebu ac mewn papurau newydd bob dydd, ond byth wir yn edrych. Rydym ni’n sganio’r wybodaeth sydd yn y llun, yn cymryd beth rydym ei angen ac yn symud ymlaen. Mae dehongliadau Macnair yn cyflwyno’r cyfarwydd a’r newydd mewn ffordd eithriadol, gan annog y sawl sy’n eu gweld i edrych yn araf ac ailddarganfod ein rhyfeddod plentynnaidd ein hunain wrth weld rhywbeth newydd am y tro cyntaf… rhywbeth mae mawr ei angen yn ein hoes fodern brysur sydd wedi’i diffinio gan domennydd o ddelweddau a gwybodaeth.

Original photograph: Trolley, New Orleans, 1955 by Robert Frank rendered in Play-Doh by Eleanor Macnair.

‘Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd rydyn ni’n beirniadu celf. Pwy sy’n dweud beth sy’n dda a beth sy’n wael? Pwy sy’n gallu ei greu a sut? Ydyn ni’n gallu rhoi bri ar rywbeth sydd ddim yn cuddio y tu ôl i iaith gelfyddydol, lle nad oes llawer o gostau cynhyrchu a lle nad yw’r arlunydd wedi bod mewn ysgol gelf? Ydy hyn yn ei wneud yn llai dilys? Neu’n fwy felly? Ai celf ydy o?’

Original photograph: Boy with June Bug, Fort Scott, Kansas, 1963 by Gordon Parks rendered in Play-Doh by Eleanor Macnair.

Dechreuodd Eleanor Macnair (yn enedigol o Nottingham) Photographs Rendered in Play-Doh ym mis Awst 2013 wedi’i hysbrydoli gan gwis tafarn gan yr artistiaid MacDonaldStrand. CafoddPhotographs Rendered in Play-Dohei gyhoeddi fel llyfr am y tro cyntaf yn 2014 ac yn fuan wedyn, cafodd y casgliad ei arddangos yn yr Atlas Gallery, Llundain; Kleinschmidt Fine Photographs, Wiesbaden; a’r Kopeikin Gallery, Los Angeles. Yn 2017, fe greodd Macnair gyfres o bortreadau o gasgliadau’r Oriel Bortreadau Genedlaethol ar gyfer arddangosfa yn siop lyfrau’r oriel yn Llundain, a chafodd ei harddangosfa “Surrealists Rendered in Play-Doh” ei harddangos yn Elephant West, Llundain yn 2018.

Bu arddangosfeydd eraill i ddilyn yn Kleinschmidt Fine Photographs – “Sofas, Birds and Knees”, “Eyes Wide Shut” a “Signs”. Yn 2024, cafodd ei gwaith ei gynnwys yn yr arddangosfa “Home Sweet Home” yn Kunstforum Ingelheim a chafodd yr ail fonograff ganddi, Whilst the World Sleeps ei gyhoeddi gan RRB Photobooks.

Mae’r prosiect wedi’i gyhoeddi yn yr Observer Magazine, Telegraph Review, The Independent Magazine, Elephant Magazine, T magazine yn rhan o’r New York Times, BBC News, The Guardian, Huffington Post, Vogue Italia, Hyperallergic, IMA ac AnOthermag.com ymysg eraill.

Mae Macnair yn cael ei chynrychioli gan Black Box Projects, Llundain ac mae arddangosfa unigol o’i gwaith yn agor yn Mai Mano House ym Mwdapest ym mis Ebrill 2025.

Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.

www.eleanormacnair.com // https://rrbphotobooks.com