Penmaenmawr, Llanfairfechan and the Carneddau - MIKE ABRAHAMS
ARDDANGOSFA YR ŴYL
LLEOLIAD: TBC
AR AGOR: 1 HYDREF - 31 HYDREF 2025
© Mike Abrahams
“Yn 1941, fe wnaeth fy Mam ddianc bomiau Lerpwl i aros gyda Maia a John Davies ym Mhenmaenmawr a roddodd diogelwch a chariad iddi. Roeddent fel rhieni iddi, a nain a thaid i minnau. Fe dreuliais ddyddiau hapusaf fy mhlentyndod gyda nhw a chwaer Maia, Lyn Jones yn ystod yr 1950au a’r 1960au.
Mae mynyddoedd Llanfairfechan a Phenmaenmawr yn cynnwys gwenithfaen prin a chaled, sydd wedi cael ei weithio ers y dyddiau cynhanesyddol. Mae’r mynyddoedd wedi cael eu cloddio ar gyfer phennau bwyell o garreg yn y cyfnod neolithig, ac ar raddfa ddiwydiannol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif er mwyn palmantu strydoedd Lerpwl a Manceinion gyda setiau a dorrwyd gyda llaw. Dechreuodd y setiau a ddefnyddiwyd ar gyfer cerrig cobl gael eu disodli gan arwynebau ffordd mwy effeithlon, a darparodd gerrig mân caled falast ar gyfer rheilffyrdd, ac agregau ar gyfer concrid. Gweithiodd mwy na mil o ddynion yn y chwarel, a daeth llongau i Lanfa Darbishire nes 1967 i’w llwytho gyda cherrig ar gyfer Lerpwl a Hamburg. Daeth gwaith adeiladu’r A55 ar ddiwedd yr 80au â’r cludiant i ben ac fe adeiladwyd dros y promenâd. Heddiw, mae llai nag ugain o ddynion yn gweithio yn y chwarel gan fod peiriannau trwm wedi disodli dros fil o bobl.”
© Mike Abrahams
“Heddiw, rydw i’n edrych ar gloc y chwarel, sydd bellach wedi stopio, a’r man lle’r oedd y lanfa’n ymestyn i mewn i’r môr. Rydw i’n edrych i fyny ac yn colli’r mynydd amrwd a ddinistrwyd gan ddiwydiant, sydd bellach wedi’i atgyfodi gan natur. Rydw i’n edrych ar yr A55, a lle’r oedd y llong a’r promenâd mawr unwaith yn sefyll. Y cytiau traeth a’r maes chwarae a oedd yn bodoli unwaith, a chaffi Sambrook a oedd yn gweini hufen iâ i ni, ac yn cynnig adloniant gyda’i oriel saethu a’i jiwc-bocs. Rwy’n dychmygu’r bobl bwysig pwysig a ddaeth yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’u hysbrydolwyd gan y prif weinidog Gladstone, a ddewisodd Penmaenmawr fel ei loches. Rydw i’n cerdded bryniau’r carneddau, gan fy nghyfareddu gan harddwch naturiol y tirlun, y defaid a’r ceffylau gwyllt, ac yn cofio’r ffermwyr a oedd yn corlannu eu defaid ar gefn ceffylau gyda’u cŵn.”
© Mike Abrahams
“Yn 2024, fe wnes i ddychwelyd i Benmaenmawr gyda’r bwriad o gofnodi bywyd yn y pentref a’r ardal gyfagos gyda fy nghamera, fel teyrnged i Nan, Wncwl John ac Anti Lyn.”
“Rydw i’n ail ddychmygu fy atgofion.”
Rydym wrth ein boddau’n cael rhannu detholiad o waith newydd Mike yng Ngŵyl y Northern Eye.
Dechreuodd Mike Abrahams ei yrfa fel ffotograffydd llawrydd yn 1975. Mae wedi gweithio’n rheolaidd ar aseiniadau i bapurau newydd a chylchgronau blaenllaw ym Mhrydain, Ewrop ac America. Yn eu plith mae The Times, The Observer Magazine, The Independent Magazine, Sunday Times Magazine, The Telegraph newspaper and Magazine. L”Express, Le Monde a Liberation yn Ffrainc, Der Spiegel and Stern yn yr Almaen, Fortune and Forbes yn UDA.
Yn 1981, daeth yn gyd-sylfaenydd Network Photographers, grŵp o ffoto-newyddiadurwyr ifanc oedd yn cyfuno eu hadnoddau gyda’r nod o ddogfennu’r byd o’u cwmpas a chefnogi’r naill a’r llall yn eu hymdrechion i gynhyrchu gwaith dogfennu cymdeithasol cyfareddol.
Mae Mike Abrahams wedi cynhyrchu llawer iawn o waith ym Mhrydain, Gogledd Iwerddon, y Dwyrain Canol, Affrica, India a Chyprus. Rhoddodd sylw i gwymp Comiwnyddiaeth ym Mwlgaria, Romania, Bosnia, a’r Chwyldro Melfed yn Tsiecoslofacia.
Rhoddodd ei waith “Faith” sylw i ymroddiad Cristnogol drwy 14 gwlad a dyfarnwyd gwobr World Press Photo Award, Daily Life iddo amdano.
Yn 2024, cyhoeddwyd ei lyfr “This Was Then” gan Bluecoat Press
Mae pob arddangosfa yn RHAD AC AM DDIM i ymweld â nhw.