Martin Parr

SIARADWYR YN YR ŴYL

Mae Martin Parr (ganwyd 23 Mai 1952) yn gasglwr llyfrau ffotograffau, ffoto-newyddiadurwr a ffotograffydd dogfennol Prydeinig. Mae’n adnabyddus am ei brosiectau ffotograffig sy’n rhoi golwg personol, dychanol ac anthropolegol ar agweddau o fywyd modern, yn dogfennu’n benodol y dosbarthiadau cymdeithasol yn Lloegr, ac yn fwy eang, cyfoeth y byd Gorllewinol.

Astudiodd Parr ffotograffiaeth yng Ngholeg Manchester Polytechnic o 1970 i 1972 gyda’i gyfoedion Daniel Meadows a Brian Griffin. Cydweithiodd Parr a Meadows ar brosiectau amrywiol, gan gynnwys gweithio yn Butlin’s fel ffotograffwyr crwydrol. Roeddent yn rhan o’r don newydd o ffotograffwyr dogfennol, “grŵp Prydeinig, ac er nad oeddent wedi rhoi enw iddynt eu hunain, daethant i gael eu hadnabod fel ‘y Ffotograffwyr Prydeinig Ifanc’, ‘Ffotograffwyr Annibynnol’ a ‘Ffotograffiaeth Brydeinig Newydd’

Mae ei brosiectau pennaf wedi bod mewn cymunedau gwledig (1975-1982), The Last Resort (1983-1985), The Cost of Living (1987-1989), Small World(1987-1994) a Common Sense (1995-1999).

New Brighton, England, 1983-85 / Copyright: © Martin Parr / Magnum Photos

Mae Martin Parr yn groniclydd ein hoes. Yn wyneb y llif cynyddol o ddelweddau sy’n cael eu rhyddhau gan y cyfryngau, mae’r ffotograffau yn cynnig cyfle i ni weld y byd o’i safbwynt unigryw.

Ar yr olwg gyntaf, mae ei ffotograffau yn ymddangos wedi’u gorliwio neu hyd yn oed yn afiach. Mae’r motiffau mae’n eu dewis yn od, mae’r lliwiau yn orliwgar ac mae’r safbwyntiau yn anarferol. Term Parr ar gyfer pŵer llethol y delweddau a gyhoeddwyd yw “propaganda”. Mae’n creu’r propaganda gyda’i arfau dewisol ei hun: beirniadaeth, atyniad a hiwmor. O ganlyniad, mae ei ffotograffau yn wreiddiol a diddanol, yn hygyrch ac yn ddealladwy. Ond ar yr un pryd, maent yn dangos y ffordd rydym yn byw, sut ydym yn cyflwyno ein hunain i eraill, a’r hyn rydym yn ei werthfawrogi mewn ffordd dreiddiol.

Westbay, England, 1996 / Copyright: © Martin Parr / Magnum Photos

Mae hamdden, treuliant a chyfathrebu yn gyd-destunau y mae’r ffotograffydd Prydeinig hwn wedi’u hymchwilio am ddegawdau ar ei deithiau o amgylch y byd. Yn y broses, mae’n archwilio nodweddion cenedlaethol a ffenomena rhyngwladol er mwyn canfod pa mor ddilys ydynt fel symbolau a fydd yn helpu cenedlaethau’r dyfodol i ddeall ein hynodion diwylliannol. Mae Parr yn ein galluogi ni i weld pethau sydd wedi ymddangos yn gyfarwydd i ni mewn modd hollol wahanol. Fel hyn, mae’n creu ei ddelwedd ei hun o gymdeithas, sy’n ein galluogi ni i gyfuno dadansoddiad o arwyddion gweledol globaleiddio gyda phrofiadau gweledol anarferol. Yn ei ffotograffau, mae Parr yn cyfosod delweddau penodol gyda rhai byd-eang heb ddatrys y gwrthddywediadau. Mae nodweddion unigol yn cael eu derbyn ac mae hynodrwydd yn cael ei drysori.

Sedlescombe, England, 1995-99 / Copyright: © Martin Parr / Magnum Photos

Mae’r themâu y mae Parr yn eu dewis a’i driniaeth bersonol ohonynt yn ei osod ar wahân fel ffotograffydd y mae ei waith yn cynnwys creu cyfresi cynhwysfawr. Rhan o’i strategaeth anarferol yw cyflwyno a chyhoeddi’r un lluniau mewn cyd-destun ffotograffiaeth gelfyddydol, mewn arddangosfeydd ac mewn llyfrau celf, yn ogystal ag mewn meysydd perthnasol hysbysebu a newyddiaduraeth. Yn y ffordd hon, mae’n mynd tu hwnt i wahaniad traddodiadol y mathau gwahanol o ffotograffiaeth. Diolch i’w ddull integreiddio, yn ogystal â’i arddull a’i ddewis o themâu, mae wedi gwasanaethu’n hir fel model ar gyfer y genhedlaeth iau o ffotograffwyr.

Mae Martin Parr yn sensiteiddio ein hisymwybod - ac unwaith i ni weld ei ffotograffau, rydym yn parhau i ddarganfod y delweddau hyn drosodd a throsodd yn ein bywydau dyddiol gan adnabod ein hunain ynddynt. Mae’r hiwmor yn y ffotograffau hyn yn gwneud i ni chwerthin i’n hunain, gyda synnwyr o gydnabyddiaeth a rhyddhad.

Thomas Weski

Martin Parr yw un o’r ffotograffwyr dogfennol mwyaf adnabyddus ei genhedlaeth. Gyda thros 100 o lyfrau wedi’u cyhoeddi, a 30 arall wedi’u golygu gan Parr, mae ei waddol ffotograffig wedi’i sefydlu eisoes.

Sand Bay, England, 1997 / Copyright: © Martin Parr / Magnum Photos

Sefydlwyd The Martin Parr Foundation yn 2014. Fe agorodd leoliad ym Mryste yn Hydref 2017. Mae’r Sefydliad yn lletya archif Parr, a’i gasgliad o brintiau a llyfrau wedi’u creu gan ffotograffwyr eraill - yn bennaf, ffotograffiaeth Brydeinig a Gwyddelig, a gwaith gan nifer o ffotograffwyr tramor sydd wedi tynnu lluniau yn y DU. Mae’r Sefydliad yn lletya oriel sy’n agored i’r cyhoedd, ei arddangosfa gyntaf oedd Black Country Stories, ac mae hefyd yn ganolfan bwysig ar gyfer sgyrsiau, dangosiadau a digwyddiadau.