Kyle McDougall
FESTIVAL SPEAKER
Mae Kyle McDougall yn ffotograffydd dogfennol a thirlun o Ontario, Canada, sydd bellach yn byw yn y Deyrnas Unedig. Mae ei waith yn cael ei arwain gan gyfaredd â’r amgylchedd gwledig, mannau tawel, hanes ac amser.
Ar ôl graddio o’r ysgol ffilm yn gynnar yn y 2000au, treuliodd Kyle saith mlynedd gyntaf ei yrfa yn gweithio fel sinematograffydd arweiniol a golygydd i ddwy sioe yn y diwydiant teledu awyr agored. Yna aeth ymlaen i fod yn berchennog cwmni cynhyrchu fideo, gan wneud gwaith ar raglenni dogfen a gwaith masnachol.
Yn 2017, gadawodd y diwydiant a phenderfynodd ddilyn ffotograffiaeth yn llawn amser. Ar hyn o bryd, mae’n canolbwyntio ar brosiectau ffotograffiaeth tymor hir ac mae’n rhannu cynnwys creadigol ac addysgol drwy ei sianel YouTube
Holbrook, Arizona (An American Mile) - © Kyle McDougall
Schurz, Nevada (An American Mile) - © Kyle McDougall
Yn 2023, rhyddhaodd ei fonograff cyntaf, ‘An American Mile’, oedd yn ganlyniad pum mlynedd o archwilio a dogfennu trefi bychan yn Ne Orllewin America.
Panhandle, Texas (An American Mile) - © Kyle McDougall
Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ddau brosiect – un yn dogfennu tirwedd llechi Gogledd Cymru a’r llall yn canolbwyntio ar hanes y Llu Awyr Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a’i feysydd awyr coll.
Tanygrisiau At Night (Slate City) - © Kyle McDougall
The Road To Blaenau Ffestiniog (Slate City) - © Kyle McDougall